Rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer y dyfodol...
Rydyn ni’n gweithio’n galed i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy’n hawdd ei ddefnyddio, yn ddibynadwy, ar gael i bawb ac yn gwella cysylltiadau ar draws Cymru a’r gororau, a hynny os ydych yn teithio ar y bws, ar y trên, ar droed neu beicio.
Drwy ein Rhaglenni Metro ar draws Cymru, rydyn ni’n gweithio tuag at greu rhwydwaith trafnidiaeth modern, hwylus a chynaliadwy – sy’n cynnwys bysiau, trenau a dulliau teithio llesol (cerdded a beicio).
Bydd ein rhwydwaith yn gwella ein hamgylchedd drwy ein hannog ni gyd i wneud dewisiadau teithio gwell a mwy cynaliadwy. Mae lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn golygu ein bod ni gyd yn gallu cyfrannu’n bersonol at gyrraedd targed sero-net Cymru erbyn 2050.
Bydd hefyd yn helpu i greu amrywiaeth ehangach o gyfleoedd o ran swyddi, hamdden a busnes, a fydd yn helpu i drawsnewid rhagolygon economaidd Cymru yn y dyfodol.
Mae Metro yn rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth integredig rydyn ni’n ei adeiladu…
Gan ddefnyddio’r tudalennau hyn, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau cyffrous sydd dan ystyriaeth gennym, a’r rhai rydyn ni’n gweithio arnynt neu’n eu cefnogi ar hyn o bryd, er mwyn ichi allu cael syniad o sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn newid yng Nghymru a’r gororau.
Rydyn ni’n gweithio ar bedair rhaglen rhanbarthol ar hyn o bryd:
- Rhaglen Metro Gogledd Cymru
- Rhaglen Canolbarth Cymru – ar y wefan hon cyn bo hir
- Rhaglen Metro De Cymru – ar y wefan hon cyn bo hir
- Rhaglen Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru – ar y wefan hon cyn bo hir
Mae ein rhaglenni’n ystyried gwahaniaethau daearyddol, a dyna pam ein bod yn eu rhannu gyda chi fesul rhanbarth.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar draws Cymru sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth, “Creu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y mae Cymru’n falch ohono.”
Rydyn ni’n awyddus i chi ymuno â ni ar y daith hon ac yn gobeithio y bydd y porth hwn yn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau rydyn ni’n gweithio arnynt, a’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud, yn ogystal â’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn contact@tfw.wales