Bydd y Metro yn newid y ffordd rydyn ni’n teithio
Rydyn ni’n gweithio’n galed i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy’n hawdd ei ddefnyddio, yn ddibynadwy, ar gael i bawb ac yn gwella cysylltiadau ar draws Cymru a’r gororau, a hynny os ydych yn teithio ar y bws, ar y trên, ar droed neu beicio.
Drwy ein Rhaglenni Metro ar draws Cymru, rydyn ni’n gweithio tuag at greu rhwydwaith trafnidiaeth modern, hwylus a chynaliadwy – sy’n cynnwys bysiau, trenau a dulliau teithio llesol (cerdded a beicio).
Rydyn ni’n awyddus i chi ymuno â ni ar y daith hon ac yn gobeithio y bydd y porth hwn yn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau rydyn ni’n gweithio arnynt, a’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud, yn ogystal â’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn y dyfodol.
Rydyn ni’n gweithio ar bedair rhaglen rhanbarthol ar hyn o bryd:
- Rhaglen Metro Gogledd Cymru
- Rhaglen Canolbarth Cymru – ar y wefan hon cyn bo hir
- Rhaglen Metro De Cymru – ar y wefan hon cyn bo hir
- Rhaglen Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru – ar y wefan hon cyn bo hir
Mae’r porth hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr holl brosiectau, hynt a chyfeiriad rhwydwaith Metro Gogledd Cymru yn y dyfodol.
-
Teithiau cyflymach
-
Mwy o gapasiti
-
Gwasanaethau mwy hygyrch
-
Gwasanaethau gwyrddach
-
Mwy o deithio fforddiadwy
-
Gwasanaethau mwy dibynadwy
-
Dewisiadau teithio integredig
-
Gwasanaethau amlach